Flexible Work, Better Balance
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Ysgol Garth Olwg
Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX
01443 57 00 57
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250
Athro ADY
Cytundeb: 1 Blwyddyn i gychwyn
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY £3,000
Dyddiad Dechrau: Medi 2026
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Garth Olwg yn awyddus i benodi Athro uchelgeisiol, brwdfrydig, deinamig a chreadigol i ymuno â Chanolfan y Nyth, sydd yn ddarpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion sydd gydag anghenion dysgu dwys a chymhleth. Mae’r ddarpariaeth yn destun balchder mawr i ni fel ysgol ac wedi profi’n hynod lwyddiannus ers ei sefydlu yn 2024.
Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ...